Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
5 Mehefin 2019
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5663
------
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 14.19
Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Atebwyd cwestiwn 6 gan y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog ar ôl cwestiwn 2.
Dechreuodd yr eitem am 15.09
Cododd Mark Reckless bwynt o drefn ynghylch nifer y cwestiynau llefarwyr a ddyrennir i grŵp newydd Plaid Brexit. Ailadroddodd y Llywydd bod y dyraniad o gwestiynau arweinwyr a llefarwyr yn cael ei wneud yn ôl disgresiwn y Cadeirydd a’i bod wedi penderfynu rhoi yr un dyraniad i’r grŵp newydd Plaid Brexit ag yr oedd gan y grŵp UKIP yn fwyaf diweddar. Ychwanegodd y Llywydd bod dyraniadau yn adlewyrchiad o gydbwysedd cyffredinol ac nid yn wyddoniaeth fanwl na chyfrif pro-rata.
Dechreuodd yr eitem am 15.10
Gofyn i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth
Russell George (Sir Drefaldwyn): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y comisiwn arbenigol a gaiff ei benodi o ran coridor yr M4 o amgylch Casnewydd?
Dechreuodd yr eitem am 15.42
Gwnaeth Darren Millar ddatganiad am - Coffáu 75 mlynedd ers y glaniadau D-Day yn Normandi.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7063 Elin Jones (Ceredigion)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
2 |
16 |
Oherwydd y cafodd y Cynnig ei gefnogi gan ddau draean o’r Aelodau a oedd yn pleidleisio, derbyniwyd y Cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 15.44
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7058 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.
2. Yn nodi ymhellach bod y trefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod yn gyson o dan oruchwyliaeth y Gweinidog Iechyd cyfredol.
3. Yn gresynu at y ffaith bod gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr welliannau sylweddol i'w gwneud o hyd o ran ei wasanaethau iechyd meddwl ac o ran ei lywodraethu, ei arweinyddiaeth a'i oruchwyliaeth, er gwaethaf treulio mwy o amser mewn mesurau arbennig ar gyfer y materion hyn nag unrhyw sefydliad yn hanes y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
4. Yn galw ar y Gweinidog Iechyd i dderbyn ei gyfrifoldeb am fethu â chyflawni'r gwelliant gofynnol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr dros y pedair blynedd diwethaf ac ymddiswyddo.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
20 |
4 |
28 |
52 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Rebecca Evans (Gwyr)
Dileu pwyntiau 2, 3 a 4 a rhoi yn eu lle:
Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.
Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
20 |
52 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM7058 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi bod pedair blynedd ar 8 Mehefin 2019 ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr gael ei roi mewn mesurau arbennig.
2. Yn cydnabod y cynnydd sydd wedi’i wneud yn y meysydd cychwynnol y nodwyd eu bod yn peri pryder yn 2015, a’r ffocws a’r gwelliant sy’n ofynnol o hyd er mwyn i’r statws uwchgyfeirio gael ei ostwng.
3. Yn nodi y bydd unrhyw benderfyniadau ynghylch newid statws uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn cael eu gwneud ar ôl cael cyngor gan Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Phrif Weithredwr GIG Cymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
32 |
0 |
20 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
Dechreuodd yr eitem am 16.46
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM7059 Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn datgan ei gefnogaeth ddiamwys i refferendwm cadarnhau ar ba delerau bynnag a gynigir gan unrhyw Brif Weinidog bod y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod opsiwn ar y papur pleidleisio i barhau yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Dechreuodd yr eitem am 17.58
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7029 John Griffiths (Dwyrain Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio strategaeth trechu tlodi, gyda chyllideb a chynllun gweithredu manwl ar gyfer gweithredu.
2. Yn galw ar y Prif Weinidog i egluro'r meysydd cyfrifoldeb ar gyfer trechu tlodi ym mhob portffolio gweinidogol.
3. Yn cydnabod ac yn llywio atebolrwydd ar gynnydd a wneir ar yr agenda trechu tlodi.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
39 |
12 |
0 |
51 |
Derbyniwyd y cynnig.
Dechreuodd yr eitem am 19.07
Dechreuodd yr eitem am 19.11
NDM7060 Joyce Watson (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Dad-ddofi Tir Cymru: yr achos dros anadlu bywyd i'n tirweddau a'n cymunedau gwledig ar Ddiwrnod Amgylchedd y Byd.
Daeth y cyfarfod i ben am 19.30
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mawrth, 11 Mehefin 2019